Theatr Genedlaethol Cymru Cofrestrwch English
 

Mae Cadeirydd Bwrdd Rheoli Theatr Genedlaethol Cymru, Yr Athro Ioan Williams, wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi derbyn ymddiswyddiad Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni.

Wedi cyfnod o saith mlynedd wrth y llyw, mae Cefin Roberts wedi penderfynu ymddiswyddo.

Cynhyrchiad olaf Cefin fel Cyfarwyddwr Artistig fydd ‘Y Gofalwr’ - cyfieithiad o ddrama glasurol Harold Pinter - sydd yn cychwyn ar ei thaith o amgylch theatrau Cymru'r wythnos nesaf (04 Chwefror 2010). Bydd Cefin yn gadael ei swydd ar 31 Mawrth 2010.

Dywedodd Ioan Williams ei fod yn hynod ddiolchgar am y cyfraniad y mae Cefin wedi ei wneud i’r Cwmni ers y dyddiau cyntaf ac am yr arweiniad artistig y mae wedi ei gynnig i bawb sydd wedi cydweithio ar brosiectau amrywiol y Cwmni dros saith mlynedd ei fodolaeth.

‘Mae Cefin yn ein gadael gydag ein dymuniadau gorau a’n diolchiadau am ei ymroddiad a’i waith caled ers sefydlu’r Cwmni’, meddai. ‘Ar ran y Bwrdd, fe hoffwn ddymuno pob dymuniad da iddo yn ei yrfa. Diolchwn iddo am roi sylfaeni cadarn iawn i’r Cwmni ac edrychwn ymlaen at gyfnod newydd pan fyddwn yn adeiladu ar y sylfeini rheiny, gan gynnig i’n cynulleidfa ystod o’r gwaith theatraidd gorau sydd ar gael.’

Dywedodd Cefin Roberts: "Mae teimladau cymysg iawn gen i wrth ddatgan fy ymddiswyddiad. Fe fydd hi’n anodd iawn ffarwelio a’r staff a chyfeillion dwi wedi cael y fraint o gyd weithio a chyd gymdeithasu hefo nhw tra’n byw yng Nghaerfyrddin, ond teimlaf ei bod hi’n amser da i mi ollwng yr awenau ac edrychaf ymlaen at gael mwy o amser gyda fy nheulu yn Ùl yn y Gogledd. Dymunaf bob dymuniad da i’r Cwmni a gobeithio y caf y fraint o weithio gyda’r Theatr eto yn y dyfodol."

Mae’r gwaith o chwilio olynydd i Cefin Roberts eisoes wedi cychwyn ac fe fydd hysbysebion yn y wasg yn ystod yr wythnosau nesaf.

Cyhoeddwyd: 27 Ionawr 2010

 


 
National Assembly For Wales The Arts Council Of Wales Carmarthenshire County Council