Yn ddiweddar fe dderbyniodd Aled a Meic wahoddiad i fod yn 'Awduron Preswyl' i’r cwmni am gyfnod o dair blynedd ac rydan ni’n hynod falch o gael y cyfle i gyhoeddi hynny. Yn ystod y flwyddyn bu’r ddau yn cynnal sesiynnau trafod a gweithdai ysgrifennu trwy Gymru gyfan, a bydd cael cyswllt mwy pendant yn golygu y gallwn ddatblygu ar y gwaith sydd eisioes wedi ei wneud. Yn ogystal â chyfranogi i drafodaethau a gweithdai bydd Meic ac Aled hefyd yn barod i fentora awduron llai profiadol sy’n datblygu syniadau i’r cwmni. Credwn fod hwn yn gam cynhyrfus ymlaen i greu sylfaen gadarn i’n hegin awduron.
Cefin Roberts
Rhagfyr '08
Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2008
![]() |
![]() |