gan Ed Thomas
Cyfieithiad i'r Gymraeg gan Sharon Morgan o'r ddrama ffrwydrol 'House of America'.
Cyfarwyddwr: Tim Baker
Cast: Alun ap Brinley, Sara Harris-Davies, Rhodri Meilir, Elin Phillips, Sion Young
Cyfieithiad i'r Gymraeg o stori ffrwydrol ac angerddol Ed Thomas, 'House of America', am frwydr anobeithiol dyn yn erbyn amgylchiadau a diwedd y freuddwyd Americanaidd mewn tref ddiwydiannol yn ne Cymru yn yr 1980au.
Adrodda Gwlad yr Addewid stori teulu'r Lewisiaid - Sid, Boyo a Gwenny, sydd yn byw gyda eu mam ecsentrig wedi i'w tad eu gadael gyda'r honiad o geisio bywyd gwell yn yr Amerig. Mae'r plant yn ysu am gael dianc yn yr un modd a'u tad ond mae'r sefyllfa yn anobeithiol gan fod prinder swyddi yn y dref fach, a Mam ddim yn fodlon i'w meibion hi weithio yn y gwaith glo brig, sydd yn taflu ei gysgod llwyd dros y ty.
Rebelio yn erbyn eu hamgylchiadau y gwna Sid a Gwenny gyda chanlyniadau hunan ddinistriol. Mae eu ffantasiau yn dechrau gafael ynddynt....gan adael Boyo a Mam ar ol gyda'r gwirionedd creulon.
Dyma'r tro cyntaf i'r ddrama hon gael ei llwyfannu yn broffesiynol yn y Gymraeg.
![]() |
![]() |