I gyd fynd â chynhyrchiadau'r cwmni, mae'r Theatr Genedalethol yn trefnu rhaglen o waith ymestyn ar hyd a lled Cymru.
Mae'r gwaith ymestyn yn amrywiol iawn - o weithdai sgriptio ac ymweliadau â chylchoedd llên i weithdai gyda dysgwyr Cymraeg a sgyrsiau ôl sioe gydag awduron a chyfarwyddwyr.

Y nôd yw datblygu'r gwaith ymestyn ymhellach dros y misoedd nesaf gan gynnwys gweithdai technegol yn yr ystod.
Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw elfen o'r gwaith ymestyn, neu os hoffech i aelod o'r Cwmni ymweld â'ch cymdeithas neu ysgol chi,yna cysylltwch â'n Swyddog Ymestyn, Fflur Thomas ar ymestyn@theatr.com neu 01267 233882.
![]() |
![]() |