Theatr Genedlaethol Cymru Cofrestrwch English
 

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gwmni teithiol sydd yn gwasanaethu Cymru gyfan. Ein nod yw
 

CREU THEATR AR GYNFAS LYDAN, SYDD AG APEL EANG, SY'N CYFOETHOGI DIWYLLIANT THEATRIG CYMRU, AC SY'N PORTREADU SAFLE'R GENEDL YN Y BYD A SAFLE'R BYD YN Y GENEDL

Hen Rebel Hypnotydd
 
Sefydlwyd y cwmni yn 2003. Mae ein rhaglen flynyddol yn cynnwys 3 cynhyrchiad teithiol, i'w perfformio ym mhrif theatrau Cymru. Rydym yn creu cyswllt byw gydag ysgolion, a'r gymuned, ymhob ardal yr ymwelir â hi.

Lleolir y cwmni, ers dechrau mis Rhagfyr 2007, yng nghanolfan Y LLWYFAN, yn nhref Caerfyrddin. Am y 10 mlynedd nesaf yma fydd cartref parhaol y cwmni - wedi cyfnodau o 4 mlynedd o breswylio mewn hen ffatri yn Llanelli a swyddfeydd dros dro yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae 'Y Llwyfan' yn adnodd ymarfer a gweinyddol.

Cofrestrwyd Theatr Genedlaethol Cymru Cyf. yng Nghymru - Rhif Cofresrtu 4784488. Mae'r cwmni hefyd yn Elusen Cofrestredig Rhif 110603
 


 
National Assembly For Wales The Arts Council Of Wales Carmarthenshire County Council