I gyd fynd â chynyrchiadau'r Cwmni, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn trefnu cyfres o weithdai a sgyrsiau ymestyn ar hyd a lled Cymru.

Mae gan Theatr Genedlaethol Cymru Swyddog Ymestyn penodedig llawn amser sydd wedi ei hymrwymo i gynnig gwaith ymestyn uchel ei safon i ysgolion, colegau, prifysgolion, sefydliadau, grwpiau dysgwyr, cylchoedd llên, grwpiau drama a llawer mwy.

Mae'r Cwmni yn cydweithio yn gyson gydag athrawon mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru er mwyn creu pecynnau sy'n berthnasol i'r cwriciwlwm cenedlaethol.

Gellid cynnig ystod eang iawn o weithdai a sgyrsiau gan gynnwys gwaith ar actio, cyfarwyddo, sgriptio a materion technegol yn ogystal â gweithdai, dosbarthiadau meistr a sgyrsiau am bynciau/themâu penodol.

 

Datblygiad diweddar yw gwahodd grwpiau lleol yn ardal Sir Gaerfyrddin i gartref Theatr Genedlaethol Cymru yn Y Llwyfan, Caerfyrddin yn ystod y cyfnod ymarfer.  Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i weld yr actorion a'r cyfarwyddwr wrth eu gwaith ac i gyffwrdd a cherdded ar set theatr broffesiynol.  Wedi'r sesiwn, fe geir cyfle i holi cwestiynnau i rai o'r actorion a'r cyfarwyddwr a sgwrsio yn fwy manwl am y sioe.

Os hoffech drefnu fod cynrychiolydd o'r Cwmni yn dod i ymweld â'ch ysgol/coleg/sefydliad chi, cysylltwch â Fflur Thomas, Swyddog Ymestyn ar 01267 233882 neu e-bostiwch ymestyn@theatr.com

Gweithdy Cyfarwyddo gyda Betsan Llwyd

Gweithdy