Gwybodaeth am y Cwmni
Cofrestrwyd Theatr Genedlaethol Cymru Cyf. yng Nghymru - Rhif
Cofresrtu 4784488. Mae'r cwmni hefyd yn Elusen Cofrestredig Rhif
110603
Swyddfa gofrestredig: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31
3EQ
Ffôn: 01267 233882
E-bost: thgc@theatr.com
Gwefan Theatr Genedlaethol Cymru
Wrth ddod i mewn i'n gwefan, rydych chi fel defnyddiwr ('Chi')
yn derbyn ein Telerau ac Amodau.
Mae gwefan Theatr Genedlaethol
Cymru yn cael eu cynnal at eich defnydd personol chi ac er mwyn i
chi eu darllen. Drwy ddod i mewn i'r wefan hon a'i defnyddio,
rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn a fydd mewn grym o'r
dyddiad y'i defnyddir am y tro cyntaf.
Eiddo deallusol
Nodau perchnogol Theatr Genedlaethol Cymru yw enwau, delweddau a
logos adnabod Theatr Genedlaethol Cymru. Ni chaniateir copïo na
defnyddio'r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti arall y ceir
mynediad atynt drwy'r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan
berchennog perthnasol yr hawlfraint.
Dylid cyfeirio ceisiadau i
gael defnyddio ein logo at yr Adran Farchnata ar 01267 233882 neu
e-bostiwch elin@theatr.com
O'r wefan hon
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau
cysylltiedig. Nid yw cynnwys gwefannau ar restr yn gyfystyr â
chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y
cysylltiadau hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw
reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.
Diogelu rhag feirysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn
ystod pob cam o'r broses gynhyrchu. Mae'n syniad da i chi redeg
rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r
rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli
data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra
byddwch yn defnyddio'r gwefannau hyn.
Ymwadiad
Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau gwefan Theatr
Genedlaethol Cymru (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau
unrhyw drydydd parti) yn cael eu darparu 'fel y maent' heb unrhyw
gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, pa un
a ydynt yn ddiamwys neu'n oblygedig, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu
i warantau goblygedig ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at
ddiben penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a
chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y
deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd
diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y wefan hon neu'r gweinydd
sy'n sicrhau bod y wefan ar gael yn rhydd rhag feirysau neu'n
cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y
deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw
golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod
anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o
unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw,
sy'n deillio neu sy'n gysylltiedig â'r defnydd o wefan Theatr
Genedlaethol Cymru.