Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yn ddefnyddiwr anhysbys o'r
wefan, nid yw gwefan Theatr Genedlaethol Cymru yn storio nac yn
cadw gwybodaeth bersonol amdanoch ond, yn hytrach, yn cofnodi eich
cyfeiriad IP sy'n cael ei adnabod yn awtomatig gan weinydd y we.
Fe'i gelwir yn 'ffeil cofnodi' ac rydym yn ei defnyddio i gasglu
ynghyd ystadegau sy'n ymwneud â defnyddio'r wefan.
Nid yw'r wefan hon yn defnyddio 'cookies' i gasglu gwybodaeth am
ddefnyddwyr.
Rydym yn casglu un math o wybodaeth oddi wrth y rheini sy'n
ymweld â'r wefan hon: sef manylion tanysgrifio trwy e-bost.
Cofrestru
Nid oes rhaid ichi gofrestru er mwyn defnyddio gwefan Theatr
Genedlaethol Cymru ond mae'n rhaid ichi gofrestru os ydych chi am
dderbyn diweddariadau ar ffurf e-bost.
Os ydych am gofrestru, mae darparu eich cyfeiriad e-bost yn
orfodol. Caiff yr wybodaeth hon ei storio'n ddiogel ar
ein cronfeydd data. Tan eich bod yn dewis dileu eich cyfrif,
caiff eich manylion eu cadw'n ddiogel fel nad oes rhaid ichi
ailgofrestru os ydych chi'n dychwelyd i'r safle hwn.
Os nad oes gennych chi ddiddordeb derbyn diweddariad e-bost oddi
wrth Theatr Genedlaethol Cymru bellach gallwch ddileu eich cyfrif
trwy fynd i'r dudalen perthnasol ar y wefan.
Y Ddeddf Diogelu Data
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn
cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu data sydd yn cael ei gasglu o'r
wefan ac yn cael ei gadw gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Ni fyddwn yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os yw'r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd,
byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn
adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau y gwyddoch bob
amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio'r
wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei
rhannu â phartïon eraill.