Heddiw mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dathlu wedi i un o
gynyrchiadau'r cwmni gael ei ddewis i fod yn ran o Ŵyl Shakespeare
Y Byd (World Shakespeare Festival), a gynhyrchwyd gan y Royal
Shakespeare Company i Ŵyl
Llundain 2012 - rhaglen gelfyddydol swyddogol y Gemau
Olympaidd.
Bydd 'Y Storm', sef cyfieithiad o glasur William Shakespeare
'The Tempest', yn cael ei berfformio, mewn cydweithrediad ag
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn
mis Awst 2012 yn Llandow, Bro Morgannwg.
Yn y cyfieithiad newydd yma gan gyn Bardd Cenedlaethol Cymru,
Gwyneth Lewis, ac yn cynnwys cerddoriaeth byw, syrcas a hud a
lledrith, daw Theatr Genedlaethol Cymru â'r clasur hynod yma'n fyw
- gwaith meistrolgar, llawn dychymyg sy'n cael ei gweld fel drama
fwyaf uchelgeisiol Shakespeare.
Bydd y tîm creadigol yn cynnwys y gyfarwyddwraig amryddawn
(Deffro'r Gwanwyn, The Devil Inside Him), y cyfansoddwr Simon Allen
(Royal National Theatre) a'r coreograffydd a'r cyfarwyddwr symud
Liz Ranken (Royal Shakespeare Company).
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol
Cymru: "Mae'r Gemau Olympaidd ond yn debygol o ddigwydd mor
agos i adref unwaith mewn oes, felly dwi'n hynod o falch fod
digwyddiad theatraidd yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y
dathliadau pwysig yma.
Aeth ymlaen: "Mae dramâu oesol un o ddramodwyr gorau'r byd
yn parhau i gael eu perfformio ymhob iaith ac mae Theatr
Genedlaethol Cymru yn falch o gyflwyno cynhyrchiad yn yr iaith
Gymraeg fel rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd. Mae cyflwyno 'The
Tempest' i gynulleidfa Gymraeg, a gweithio gyda Gwyneth i archwilio
beth sydd yn digwydd i stori glasurol pan siaredir hi yn Gymraeg -
o dan gyfarwyddid dyfeisgar Elen Bowman - yn mynd i fod yn
ddathliad arbennig diwylliannol ac ieithyddol ond sydd yn cael ei
wneud hyd yn oed yn fwy arbennig gyda'n cydweithrediad ni gydag
Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Meddai Deborah Shaw, Cyfarwyddwr Gŵyl Shakespeare Y Byd:
"Rydym wrth ein boddau fod Theatr Genedlaethol Cymru yn creu
cynhyrchiad mor uchelgeisiol i fod yn rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd,
wedi ei wreiddio yn yr iaith Gymraeg cyfoethog a barddol yn ogystal
â bod yn cyflwyno steil theatr Gymraeg cyfoes i'r
cynhyrchiad. Mae'n ychwanegiad gwych i raglen yr Ŵyl ac mae'n
golygu fod Cymru yn cael ei gynrychioli gan y Theatr Genedlaethol
Gymraeg a Saesneg ei hiaith - arwydd pendant o ddeffroad yn y
theatr yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf."
Meddai Ruth Mackenzie, Cyfarwyddwr Gŵyl Llundain 2012:
"Diolch i Theatr Genedlaethol Cymru a'n holl sêr celfyddydol, yn
Haf 2012 bydd Gwyl Llundain 2012 yn dangos i'r byd ein
sefydliadau blaengar celfyddydol, ac yn arddangos iddynt ein bod
wedi ein hymrwymo i greu a dathlu talent o'r safon uchaf
posibl."
-diwedd-
Am fwy o fanylion cysylltwch
â Elin Williams ar 01267 233882 neu e-bostiwch
elin@theatr.com