Fe fydd drama Gymraeg gair am air newydd sydd yn defnyddio
storïau pobl yn eu geiriau ei hunain yn ddechrau cyfnod newydd i
ddau gwmni theatr.
Bydd Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, mewn
cydweithrediad â Galeri, Caernarfon yn cynhyrchu 'Sgint' gan Bethan
Marlow, sydd yn cymryd golwg gonest a ffres ar yr hinsawdd
economaidd bresennol a sut mae'n effeithio ar pobl o bob haen o
gymdeithas.
Bydd y ddrama ar daith trwy Gymru yn Chwefror - Mawrth 2012.
Wedi ei chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, 'Sgint' fydd cynhyrchiad
cyntaf newydd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ers
iddo gymryd y llyw ym mis Mai eleni.
Bydd y ddrama, sydd wedi ei gosod yng Nghaernarfon, yn un o
ddigwyddiadau allweddol tymor agoriadol Sherman Cymru yn ei adeilad
newydd datblygedig yng Nghaerdydd.
Dros y deunaw mis diwethaf, mae'r dramodydd Bethan Marlow wedi
bod wrthi yn cyfweld amryw o wahanol drigolion Caernarfon -
athrawes, dyn busnes, gwleidydd a mam sengl i enwi dim ond
rhai. Aeth Bethan ati i lunio'r ddrama allan o union eiriau'r
trigolion a'r canlyniad yw drama wreiddiol gair am air am ymateb
pobl i gael, a pheidio cael arian.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol
Cymru: "Fe fydd 'Sgint' yn ddigwyddiad theatraidd nas gwelwyd
o'r blaen yn y Gymraeg, lle mae lleisiau pobl go iawn yn cael eu
clywed ar lwyfan mewn ffordd amrwd, onest ac o'r galon. Er
ein bod yn gweithio gydag actorion proffesiynol, fe fydd y ddrama
yn cynnig adlewyrchiad ar fywyd go iawn a all fod yn anodd ei wylio
ar brydiau - mae yma ambell i wirionedd annymunol iawn yma.
Aeth ymlaen: "Ond ceir hefyd llawer iawn o hwyl, fel y
byddech yn disgwyl o gymeriadau Caernarfon…… os gallaf ei galw yn
hynny…..gan taw drama heb gymeriadau yw hon - yn defnyddio pobl go
iawn - nid gwaith dychymyg yr awdur. Fe fydd yn sialens
aruthrol i mi ac i'r actorion proffesiynol i adlewyrchu y
gwirionedd yma, ac i bortreadu pobl Caernarfon, sydd wedi bod mor
hael ei cymorth wrth greu 'Sgint'".
Meddai Cyfarwyddwr Sherman Cymru, Chris Ricketts:
"Comisiynwyd Bethan i weithio ar 'Sgint' ar ddechrau 2010, a rydym
yn hynod o falch ein bod yn gallu dod a'r ddrama yma yn fyw trwy
weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae datblygu a
chynhyrchu dramâu yn yr iaith Gymraeg yn ran canolog o waith
Sherman Cymru. Mae'n briodol iawn hefyd ein bod yn croesawu
cynulleidfa 'Sgint' i mewn i'n hadeilad newydd a fydd yn adlewyrchu
safon y cynyrchiadau a'r digwyddiadau sydd yn digwydd yma. "
Fe fydd 'Sgint' yn agor yn Sherman Cymru, Caerdydd rhwng 07-11
Chwefror 2012 cyn symud ymlaen i Galeri, Caernarfon 21-24 Chwefror;
Theatr Mwldan, Aberteifi 28-29 Chwefror; Theatr Hafren, Y Dre
Newydd 03 Mawrth; Theatr Y Lyric, Caerfyrddin 06-07 Mawrth a
Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth 09-10 Mawrth 2012.
-diwedd-
Am fwy o wybodaeth am daith 'Sgint' cysylltwch â Elin
Williams, Theatr Genedlaethol Cymru ar 01267 233882 neu e-bostiwch
elin@theatr.com
Am fwy o wybodaeth am adeilad newydd Sherman Cymru a'r
rhaglen agoriadol cysylltwch â Alice Baynham Sherman Cymru ar 029
2064 6967 neu e-bostiwch
alice.baynham@shermancymru.co.uk