Mae Theatr Genedlaethol Cymru heddiw yn annog cynulleidfaoedd
Cymru i archebu eu tocynnau o flaen llaw er mwyn sicrhau sedd ar
gyfer gweld eu sioe nesaf, sef y sioe gerdd 'Deffro'r Gwanwyn'.
Gyda'r tocynnau i'r 3 perfformiad yng Nghaerdydd eisoes wedi eu
gwerthu i gyd, mae'r Cwmni annog pobl i archebu eu tocynnau ar
unwaith i berfformiadau eraill y sioe gerdd yn y de.
Mae'r sioe, sydd yn gyfieithiad o'r sioe gerdd boblogaidd
'Spring Awakening', yn agor yng Nghaerfyrddin yr
wythnos nesaf gyda pherfformiadau o Nos Fercher 09 Mawrth
2011 - Nos Wener 11 Mawrth 2011 yn Y Llwyfan, Heol y
Coleg. Gellid archebu tocynnau o Theatrau
Sir Gâr ar 0845 226 3510.
Yr unig gyfle arall i weld y sioe yn y de fydd ym
Mhontardawe ar Nos Fawrth 22 Mawrth 2011 a Nos Fercher 23
Mawrth 2011. I archebu tocynnau cysylltwch â 01792
863722.
Meddai Elin Williams, Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol
Cymru: "Rydym wrth ein boddau fod y sioe yn profi i fod yn
ddewis poblogaidd yn y brifddinas, ac fe fyddem yn annog unrhywun
arall sydd am weld y sioe i archebu eu tocynnau o flaen llaw er
mwyn sicrhau lle.
"Er taw sioe am bobl ifanc yw 'Deffro'r Gwanwyn' mae'r themâu
sy'n cael eu trafod yn addas ar gyfer pob oedran ac yn themâu
oesol. A gyda band yn chwarae yn fyw, mae hi'n argoeli i fod
yn noson o adloniant gwych - gobeithiwn yn fawr y bydd pobl
yn dod i fwynhau noson o adloniant bythgofiadwy."
Gweler manylion y daith isod:
09-11 Mawrth 2011 CAERFYRDDIN Y Llwyfan, Heol y Coleg 0845 226
3510
15-16 Mawrth 2011 CAERDYDD - Wedi gwerthu
22-23 Mawrth 2011 PONTARDAWE Canolfan Hamdden Pontardawe 01792
863722
25-26 Mawrth 2011 ABERAERON Canolfan Hamdden Syr Geraint Evans
01239 621200
29 Mawrth - 01 Ebrill 2011 DOLGELLAU Canolfan Hamdden Glan Wnion
01341 421800
05-06 Ebrill 2011 LLANRWST Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy 01492
642 357
08-09 Ebrill 2011 WRECSAM Canolfan Hamdden Plac Madoc, Acrefair
01978 293293
12-15 Ebrill 2011 YNYS MÔN Canolfan Hamdden Biwmares 01248
382828