Arwel Gruffydd yw Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr
Genedlaethol Cymru, cyhoeddodd Yr Athro Ioan Williams, Cadeirydd
Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Gŵyl Dewi heddiw.
Fe fydd Arwel yn cychwyn yn llawn amser yn ei swydd newydd ar y
3ydd o Fai 2011.
Ar hyn o bryd, mae Arwel yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman
Cymru lle mae'n gyfrifol am raglen Gymraeg y cwmni, yn cynnwys
cynlluniau comisiynu a datblygu gwaith newydd a phrosiectau
datblygu awduron newydd.
Yn wreiddiol o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, mae Arwel
wedi gweithio yn eang fel actor ffilm, teledu a theatr a dros y
blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn canolbwyntio ar ei waith fel
cyfarwyddwr.
Mae ei waith cyfarwyddo yn cynnwys 'Llwyth', 'Ceisio'i Bywyd
Hi', 'Yr Argae', 'Maes Terfyn' (Sherman Cymru), 'Gwe o Gelwydd'
(Cwmni Inc), 'Mae Sera'n Wag' a 'Hedfan Drwy'r Machlud' (Sgript
Cymru) i enwi dim ond rhai.
Meddai Arwel: "Mae llywio'r Theatr Genedlaethol wrth
iddi ailddiffinio'i hun ac ailystyried ei pherthynas ag aml
gymunedau Cymru, yn her ac yn fraint aruthrol.
"Wrth i'r cwmni ddod allan o gyfnod o edrych i mewn arno'i hun,
mae hi naill ai'n ddamwain ffortunus neu'n gynllun go giwt, fod fy
mhenodiad yn digwydd pan mae cynhyrchiad nesaf y cwmni (sydd ar fin
cychwyn ar daith drwy Gymru), yw Deffro'r Gwanwyn! Gobeithio fod
hyn yn argoel dda.
"Heb os, mae'n gyfnod cynhyrfus i gychwyn gyda'r Theatr
Genedlaethol, a dwi'n edrych ymlaen yn arw i fynd ati dros y
misoedd nesaf i greu rhaglen o waith bywiog ac amrywiol ar gyfer
2012 ac i blannu hadau o bob math ar gyfer y blynyddoedd i
ddod."
Meddai Ioan Williams, Cadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol
Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod Arwel yn mynd i arwain Theatr
Genedlaethol Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Mae'n gyfnod
cyffrous iawn ym myd y theatr Gymraeg ac mae cael rhywun sydd â
phrofiad Arwel wrth y llyw yn mynd i'n helpu i lunio rhaglen
artistig heriol ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld ffrwyth ei
lafur ar lwyfannau Cymru yn fuan."