Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cychwyn ar y gwaith o ganfod
Cyfarwyddwr Artistig newydd i'r Cwmni.
Fe fydd hysbysebion yn ymddangos yn y wasg yr wythnos hon yn
cyhoeddi fod y Cwmni, sydd a'i swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, yn
edrych am Gyfarwyddwr Artistig newydd i greu gweledigaeth a
chyfeiriad newydd i Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer y
dyfodol.
Fe fydd y swydd yn un llawn amser ac yn benodiad am gyfnod o 5
mlynedd.
Fe ymadawodd Cefin Roberts y swydd o Gyfarwyddwr Artistig nôl ym
mis Mawrth 2010 wedi cyfnod o 7 mlynedd wrth y llyw.
Ers hynny mae'r Theatr Genedlaethol wedi bod yn cynnal arolwg i
adolygu gweithgaredd y Cwmni er mwyn cynllunio yn fanwl ar gyfer
dyfodol llwyddiannus.
Meddai'r Athro Ioan Williams, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli:
"Gyda dechrau blwyddyn newydd, rydym ninnau yn troi dalen newydd yn
hanes Theatr Genedlaethol Cymru drwy edrych am Gyfarwyddwr Artistig
newydd i'n harwain.
"Gobeithiwn yn fawr fod y swydd yn un apelgar ac y bydd yn denu
cyfarwyddwyr ac ymarferwyr amryddawn i ymgeisio amdani."
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd Dydd Llun 7fed Chwefror
2011.
Ceir pecyn gwybodaeth trwy ffonio 01267 233882 neu drwy e-bostio
thgc@theatr.com.