Yr Anrheg Nadolig Delfrydol

Methu meddwl am ba anrheg Nadolig i brynu i'r person anodd hynny yn eich bywyd? Wedi bod yn crafu'ch pen am anrheg gwahanol i'r arfer?

Beth am brynu taleb iddynt i weld sioe nesaf Theatr Genedlaethol Cymru, 'Deffro'r Gwanwyn' a fydd yn teithio Cymru benbaladr yn ystod mis Mawrth a Ebrill 2011.

Cyfieithiad o'r sioe gerdd newydd 'Spring Awakening' yw 'Deffro'r Gwanwyn'.  Bu'r sioe yn llwyddiant mawr yn Llundain yn 2009 gan ennill cyfanswm o 4 gwobr Olivier - dau ohonynt i'r actorion o Gymru Aneurin Barnard a Iwan Rheon.

Bydd 'Deffro'r Gwanwyn', sydd a'r cast yn cynnwys Ffion Dafis, Dyfed Thomas, Aled Pedrick, Ellen Ceri Lloyd, Elain Lloyd, Elin Llwyd a Iddon Jones, yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru ar 09 Mawrth 2011 gan ymweld â Chaerfyrddin, Caerdydd, Pontardawe, Aberaeron, Dolgellau, Llanrwst, Wrecsam a Biwmares.

Er mwyn prynu taleb fel anrheg Nadolig, cysylltwch gyda'r swyddfa docynnau leol (manylion isod) a gofynwch am daleb Nadolig Theatr Genedlaethol Cymru (ac eithrio Canolfan Mileniwm Cymru).  I gyfnewid y daleb am docyn, yr oll fydd yn rhaid i'r sawl sydd yn ei dderbyn fel anrheg ei wneud yw cysylltu â'r swyddfa docynnau erbyn 28 Chwefror 2011.

Meddai Elin Williams, Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru:  "Mae gan bawb aelod o'r teulu neu ffrind sydd yn anodd prynu anrheg Nadolig iddynt, felly eleni am y tro cyntaf erioed, mae'r Theatr Genedlaethol wedi penderfynu cynnig taleb ar gyfer ein sioe nesaf ni 'Deffro'r Gwanwyn'.

"Mae hi'n argoeli i fod yn noson o adloniant gwych gyda cherddorfa yn chwarae yn fyw gan gynnig croesdoriad diddorol o ddrama a chyngerdd roc."

Cliciwch yma i gael manylion llawn y daith

-diwedd-

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Elin Williams, Rheolwr Marchnata ar 01267 245617

 

09 Rhagfyr 2010

Gadael Sylw