Fred Yw'r Prentis Perffaith

Efallai fod Yr Arglwydd Sugar ar sioe deledu boblogaidd y BBC "The Apprentice' yn cael trafferth chwilio prentis da, ond mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi canfod y prentis perffaith.

Bydd Fred Harvey-Love yn dechrau ar ei swydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar 08 Dachwedd 2010 am gyfnod penodol o 12 mis -  y person cyntaf erioed i gael prentisiaeth gyda'r Cwmni.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig prentisiaeth technegol a fydd, ar y cyd gyda Coleg Gorseinon, yn cynnig y cyfle i Fred i weithio tuag at gymhwyster Tystysgrif Lefel 2/3 Prentisiaeth Fodern 'Theatr Dechnegol:  Rigio, Goleuo a Sain'.

Daw Fred, sydd yn 18 oed, o Gaerdydd ac mae'n gyn ddisgybl Ysgol Gyfun Radyr yn y ddinas.  Mae ganddo ddiddordeb ysol mewn theatr a'r celfyddydau, ac eisoes, mae ganddo brofiad o weithio gefn llwyfan ar amryw o gynyrchiadau gan gynnwys cynyrchiadau Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.

Meddai Fred:  "Edrychaf ymlaen yn eiddgar at weithio yn Theatr Genedlaethol Cymru.  Yn ystod fy mlwyddyn fel prentis, rwy'n awyddus i weithio mor galed a phosibl er mwyn cael gymaint o brofiad, hyfforddiant a gwybodaeth ar bob agwedd o waith technegol y theatr.  Gobeithiaf y bydd hyn yn gymorth i mi gael fy nerbyn ar gwrs Prifysgol perthnasol yn y dyfodol gan arwain y ffordd i mi gael gyrfa yn y maes."

Meddai Wyn Jones, Rheolwr Technegol a Gweithrediadau Theatr Genedlaethol Cymru:  "Mae'n bleser i allu cynnig y cyfle unigryw yma i berson ifanc, brwdfrydig fel Fred.  Bydd y brentisiaeth yn buddsoddi yn sgiliau technegwyr y dyfodol ac yn sicrhau fod siaradwyr Cymraeg yn cael y cyfle gorau i ennyn profiad ac i ddatblygu o fewn y maes."

-diwedd-

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Elin Williams, Rheolwr Marchnata at 01267 245617 neu e-bostiwch elin@theatr.com

02 Tachwedd 2010

Gadael Sylw