Am y tro cyntaf erioed, fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn
llwyfannu sioe gerdd gyffrous a fydd yn cynnig profiad gwahanol i
gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru yng Ngwanwyn 2011.
Fe fydd y Cwmni cenedlaethol yn llwyfannu addasiad o ddrama
ddadleuol Frank Wedekind, 'Spring Awakening' sef
"Deffro'r Gwanwyn' sydd wedi ei gyfieithu i'r
Gymraeg gan y dramodydd Dafydd James.
Mae'r ddrama yn portreadu grŵp o bobl ifanc sydd yn profi eu
glasoed - rhai mewn anwybodaeth ac heb unrhyw fath o arweiniad. Mae
eu hofn a'u chwilfrydedd yn eu harwain at brofiadau herfeiddiol
sydd â chanlyniadau dirdynnol i rai ac i eraill yn newid cwrs bywyd
am byth.
Ers i'r sioe gerdd 'Spring Awakening' agor am y tro cyntaf yn
2006 yn Broadway, America derbyniwyd canmoliaeth fawr iddi ac mae
hi wedi ennill 7 Gwobr Tony yn Efrog Newydd a 4 gwobr Olivier yn
Llundain - dau ohonynt gan y Cymry ifanc Aneurin Barnard ac Iwan
Rheon.
Meddai Elin Williams. Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol
Cymru: "Mae'r prosiect yma yn cynnig her wahanol iawn i'r Cwmni ac
edrychwn ymlaen at y sialens o lwyfannu sioe gerdd. Mae hi'n
argoeli i fod yn noson o adloniant gwych gyda cherddorfa yn chwarae
yn fyw gan gynnig croesdoriad diddorol o ddrama a chyngerdd
roc.
"Mae gwaith ymestyn mewn ysgolion a cholegau eisoes ar y gweill
a gobeithiwn ddefnyddio technegau marchnata gwahanol i ddenu
cynulleidfa newydd i'r theatr."
Y gyfarwyddwraig amryddawn Elen Bowman fydd wrth y llyw a dyma'r
tro cyntaf iddi hi weithio o dan adain Theatr Genedlaethol
Cymru. Meddai: "Er i'r ddrama wreiddiol gael ei
ysgrifennu nôl yn 1891, mae'r themâu yn oesol ac mae'r modd yr
addaswyd y ddrama i fod yn ddrama gerdd yn apelgar iawn i bobl
ifanc. Gobeithiaf yn fawr y bydd y gynulleidfa yn mwynhau'r
profiad ac mae'n gyfle gwych i gast o actorion ifanc ymgymryd â
sioe gerdd heriol a chreu noson fythgofiadwy a newydd iawn i
lwyfannau Cymru."
Bydd rhagor o fanylion am y cast a'r daith yn cael ei datgelu yn
fuan.