Bydd rhaglen artistig Theatr Genedlaethol Cymru dros yr haf a'r
hydref yn cynnwys prosiect cymunedol, cyfieithiad o un o glasuron
Shakespeare, taith ryngwladol a chynllun i ddatblygu dawn
cyfarwyddwyr, cyhoeddodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig
Theatr Genedlaethol Cymru heddiw (19 Mawrth 2012).
C'laen ta!
Mae'r cyfnod nesaf yn hanes y Cwmni drama teithiol cenedlaethol
Cymraeg yn cychwyn ym mis Mehefin 2012 gyda phrosiect
cymunedol 'C'laen ta!' yng Nghaernarfon. Mae'r prosiect, sydd
mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon ac mewn cydweithrediad â
Phartneriaeth Pobol Peblig, yn cynrychioli'r trydydd cam creadigol
dan law'r dramodydd ifanc Bethan Marlow ym mherthynas ddiweddar y
Theatr Genedlaethol â phobl tref Caernarfon.
Meddai Arwel: "Bydd 'C'laen 'Ta!' yn brosiect creadigol
fydd yn dod ag artistiaid proffesiynol ac aelodau o'r gymuned
ynghyd mewn ffordd newydd eto. Yn wahanol i'r ddau brosiect
blaenorol yn y dref, 'Sgint' a 'Sgin Ti Syniad?' bydd 'C'laen 'ta!'
yn ogystal â chreu a chyflwyno darn o theatr, yn darganfod a
datblygu arweinwyr ar gyfer ac o fewn y gymuned. Mae'r hadau eisoes
wedi eu plannu, ond rŵan, rydym am i'r hadau hynny dyfu ac am adael
ar ein hôl unigolion sydd yn meddu'r sgiliau a'r hyder i annog a
datblygu syniadau artistig a chymdeithasol newydd o fewn y gymuned
a chynorthwyo eraill i ddatblygu eu gweledigaethau creadigol eu
hunain."
Y Storm
Mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, yr Eisteddfod
Genedlaethol, Pontio a Citrus Arts, yn ystod mis Awst, Medi a
Hydref, fel rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd y Royal Shakespeare
Company a Gŵyl Llundain 2012 yr Olympiad Diwylliannol -, bydd
cyfieithiad newydd gan Gwyneth Lewis o 'The Tempest', Y Storm
- yn cael ei lwyfannu o dan gyfarwyddyd Elen Bowman.
Gydag aelodau'r cast yn cynnwys Llion Williams (Prospero) a
Meilir Rhys Williams (Ariel) a gyda thafluniadau arbennig, syrcas a
cherddoriaeth fyw, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn creu byd
hudolus a'r ynys ryfeddol o fewn pabell deithiol bwrpasol.
Bydd 'Y Storm' yn cael ei berfformio yn ystod Eisteddfod
Genedlaethol Bro Morgannwg ar faes yr Eisteddfod ei hun, cyn
teithio i Gaerfyrddin rhwng 18-21 Medi ac i Fangor 02-06
Hydref 2012.
Meddai Arwel: "Mae'n fraint ac yn gyfle unigryw i ni fel
Cwmni gael bod yn rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd a dathliadau
Olympaidd. Bydd y cyfieithiad newydd hwn gan Gwyneth Lewis yn
cynnig golwg newydd ar un o glasuron Shakespeare a bydd cynhyrchiad
mentrus Elen Bowman yn sicr o fod yn brofiad theatraidd byth
cofiadwy ."
Llwyth
Yn dilyn taith genedlaethol hynod lwyddiannus a pherfformiadau
yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2011, bydd golygon y Theatr
Genedlaethol Cymru yn troi tua'r Dwyrain Pell, wrth i'r
Cwmni, ar y cyd â Sherman Cymru, fynd â drama gyffrous Dafydd
James, 'Llwyth' i Ŵyl Gelf Ryngwladol Taipei o 31 Awst
- 02 Medi 2012.
"Cafwyd ymateb anhygoel i'r llwyfaniad yng Ngŵyl Caeredin
y llynedd, lle roedd y cynhyrchiad yn rhan o arddangosfa arbennig y
Cyngor Prydeinig, ac mae hon rŵan yn bennod gyffrous yn hanes
Theatr Genedlaethol Cymru, wrth inni fynd â chynhyrchiad Cymraeg,
sydd wedi cydio cymaint yn nychymyg y gynulleidfa yma yng Nghymru,
ar antur ryngwladol," meddai Arwel Gruffydd.
Bydd un perfformiad o 'Llwyth' yng Nghaerfyrddin ym mis Awst,
cyn iddi neidio ar awyren i brif ddinas Taiwan , ac yna
ddychwelyd i Gymru ar gyfer perfformiadau yn Theatr Sherman Cymru,
Caerdydd rhwng 12-14 Medi 2012.
Cwrs Hyfforddi Cyfarwyddwyr
Er mwyn annog gwaed newydd i'r diwydiant theatr yng Nghymru, mae
Theatr Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo fel un o bartneriaid cwrs
hyfforddi newydd i gyfarwyddwyr sydd yn cael ei arwain gan gwmni
Living Pictures.
Mae'r cwrs, sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru,
yn gwrs blwyddyn o hyd (rhan amser) a fydd yn rhoi hyfforddiant
trwyadl i dri cyw cyfarwyddwyr yn y broses o ddatblygu a
chyfarwyddo dramau llwyfan newydd.
Athrawon gwadd y prosiect, ymysg eraill fydd Marc Rees a
Sash Wares o'r Royal Court.
Bydd tri awdur profiadol yn cael ei comisiynu gan Theatr
Genedlaethol Cymru i ysgrifennu tair drama a fydd yn cael ei
datblygu fel rhan o'r cwrs a byddant yn cael ei perfformio ar
lwyfan Sherman Cymru, Caerdydd yn ystod mis Medi 2013.
Gwahoddir ceisiadau gan gyw cyfarwyddwyr erbyn 05 Ebrill
2012. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â livingpictures@btopenworld.com.
-diwedd-
Am fwy o fanylion cysylltwch
â Elin Williams ar 01267 233882 neu e-bostiwch
elin@theatr.com