Tyner Yw'r Lleuad Heno

Drama newydd gan Meic Povey a lwyfanwyd yn Hydref 2009.

Dychwela Dafydd, sydd yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, i fwrw Sul tyngedfennol yng nghwmni ei deulu, sy;n byw ar fferm ar lethrau Eryri, i ddathlu penblwydd Prysor, y taid mae Dafydd yn ei garu gymaint.

Maent yn deulu agos iawn;  pawb yn byw ym mhocedi i gilydd, ac yn rhannu a gwarchod cyfrinach dywyll a wthiwyd i ben pellaf eu hymwybyddiaeth - cyfrinach a gadwyd rhag Dafydd ar hyd y blynyddoedd.

Cyfarwyddwr: Meic Povey

Cast: Owen Arwyn, Ffion Dafis, Owen Garmon, Arwyn Jones, Merfyn Pierce Jones, Buddug Povey, Tonya Smith

Cynllunydd: Gwyn Eiddior Parry

Goleuo: Nick Mumford

Cerddoriaeth: Osian Gwynedd

Lluniau: Warren Orchard