gan Manon Eames
Cyd gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr
Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Yr Wyddgrug 2007.
'Tryweryn oedd man cychwyn y daith i hunanbenderfyniad a'r
Cynulliad Cymreig'.
Y penderfyniad i foddi dyffryn Tryweryn yn 1957 oedd y gefnlen
ar gyfer y ddrama hon.
Dilynir hanes y gymuned a gollwyd, a'r digwyddiadau a arweiniodd
ar ei thranc - a hynny trwy lygaid y sawl a ddioddefodd golled, a'r
rhai oedd ar eu helw.
Mae'r ddrama bwerus hon hefyd yn bwrw golwg ar effaith y
gwrthdaro rhwng pentref dan warchae a grym y ddinas fawr - a
chefnogaeth y Llywodraeth i'r ddinas honno - a sut y bu i'r cyfan
danio adwaith fyddai'n newid tynged cenedl.
Cyfarwyddwr: Tim Baker
Cast: Rhian Blythe, Rhodri Evan, Wyn Bowen
Harries, Iola Hughes, Sara Lloyd, Betsan Llwyd, Sion Pritchard,
Victoria Pugh, Phil Reid, Dyfan Roberts, Simon Watts, Llion
Williams
Cynllunydd Set: Max Jones
Cynllunydd Gwisgoedd: Debbie Knight
Cynllunydd Goleuo: Nick Beadle
Cyfansoddwr: Dyfan Jones
Cynllunydd Sain: Kevin Heyes