Iesu!

Drama newydd gan Aled Jones Williams

Rydan ni'n meddwl ein bod ni'n gwybod pwy ydi Iesu - ond a ydyn ni'n gwybod mewn gwirionedd?

Nid drama grefyddol yw 'Iesu!'

Mae'r ddrama heriol hon yn dad-grefyddu Iesu a Nasareth a'i thynnu o'r byd ysgafala ymneilltuol Cymraeg, y llyfr hymns a'r beiblau duon.

Byddwch yn barod i feddwl…..ac i ddadlau.

Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd yn 2008 ac yn ystod yr Hydref 2008 bu ar daith ar hyd a lled Cymru.

Cyfarwyddwr: Cefin Roberts

Cast (yn cynnwys): Dafydd Dafis, Dafydd Emyr, Mathew Lloyd, Fflur Medi Owen, Dorien Thomas, Gareth ap Watkins, Llion Williams

Cynllunydd: Guto Humphreys

Goleuo: Ace McCarron

Cerddoriaeth: Jochen Eisentraut