Cyfieithiad i'r Gymraeg o stori ffrwydrol ac angerddol Ed
Thomas, 'House of America', am frwydr anobeithiol dyn yn erbyn
amgylchiadau a diwedd y freuddwyd Americanaidd mewn tref
ddiwydiannol yn ne Cymru yn yr 1980au.
Adrodda Gwlad yr Addewid stori teulu'r Lewisiaid - Sid, Boyo a
Gwenny, sydd yn edrych ar ôl eu mam ecsentrig wedi i'w tad eu
gadael gyda'r honiad o geisio canfod bywyd gwell yn yr
Amerig. Mae'r plant yn ysu am gael dianc yn yr un modd a'u
tad ond mae'r sefyllfa yn un anobeithiol gan fod prinder swyddi yn
y dref fach, a Mam ddim yn fodlon i'w meibion hi weithio yn y
gwaith glo brig, sydd yn taflu ei gysgod llwyd dros y ty.
Rebelio yn erbyn eu hamgylchiadau y gwna Sid a Gwenny gyda
chanlyniadau hunan ddinistriol. Mae eu ffantasiau yn dechrau
gafael ynddynt ………. gan adael Boyo a Mam ar ôl gyda'r gwirionedd
creulon.
Dyma'r tro cyntaf i'r ddrama hon gael ei pherfformio yn y
Gymraeg.
Cyfarwyddwr: Tim Baker
Cast: Alun ap Brinley, Sara Harris-Davies,
Rhodri Meilir, Elin Phillips, Sion Young
Cynllunydd: Mark Bailey
Cynllunydd Goleuo: Nick Beadle
Cyfansoddwr/Cynllunydd Sain a Chynllunydd
Clywedol: Dyfan Jones