Cyflwyniad o ddwy ddrama fer
Dau. Un. Un. Dim gan Manon Wyn
a
Yn Y Trên gan Saunders Lewis
Dirgelwch ffuglen wyddonol yw 'Dau. Un. Un. Dim', wedi'i gosod
yn y flwyddyn 2110. Mae'r gymdeithas wedi'i rhannu yn ddwy -
y 'pur' a'r 'amhur'. Wrth i'r ddau gymeriad sydd yn y ddrama
herio'i gilydd, mae'r sefyllfa'n cymhlethu, a rhaid i'r ddau
gwestiynu popeth fu'n sail i'w bodolaeth hyd yma.
Mae dylanwad theatr yr abswrd i'w weld ar 'Yn Y Trên', arddull
go anarferol i Saunders Lewis, ac mae'r darn yn llawn hiwmor
du. Daw teithiwr heb docyn wyneb yn wyneb â'r casglwr
tocynnau, ar drên sy'n hyrddio mynd drwy'r tywyllwch….i
ddifancoll….efallai?
Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd
Cast: Lowri Gwynne a Rhodri Meilir
Cynllunydd: Guto Siôn Humphreys
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain: Dyfan Jones