Bobi a Sami...a Dynion Eraill

Cyflwyniad newydd o ddrama fer wych y diweddar Wil Sam Jones, 'Bobi a Sami'.

Drama ddwys-ysgafn sydd yn peri i'r gynulleidfa chwerthin yn uchel wrth glywed y ddau gymeriad lliwgar yn mynd trwy'u pethau.

Roedd arlwy'r noson hefyd yn cynnwys cyflwyniad o ddwy ddrama fer, chwareus gan Samuel Beckett - a gafodd ddylanwad amlwg ar waith Wil Sam.  Mae 'Act Without Words I' a 'Act Without Words II' yn crynhoi, heb eiriau, ond gyda manyldeb perffaith, thema fawr y dramodydd, sef abswrdiaeth bywyd.

Roedd y daith yma hefyd yn cyflwyno'r gynulleidfa i ddrama fer gan ddramodydd ifanc, newydd sef 'Meical', gan Luned Emyr.

 

Cyfarwyddwyr: Cefin Roberts & Judith Roberts

Cast: Llyr Evans, Sion Pritchard, Llion Williams

Cynllunydd: Gwyn Eiddior Parry

Cynllunydd Goleuo: Mick Mumford

Cyfansoddwr: Osian Gwynedd