Y Storm

Cyfieithiad Gwyneth Lewis o

'The Tempest', William Shakespeare

Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pontio a Citrus Arts

Rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd (Royal Shakespeare Company) a Gŵyl Llundain 2012

Ar ynys anghysbell, mae storm yn corddi a chyfle o'r diwedd i frawd ddial ar frawd.

Mae Ariel yn barod i dalu'r pwyth yn ôl gyda chorwynt a dŵr a thân.

Ar fôr tymhestlog, gweddia Antonio am ei einioes, wrth i Prospero wylio'r cyfan o'r tir.

Mae chwerthin ac ofn, hunllef a dryswch yn arwain creaduriaid truenus o orffennol Prospero ar ffair wyllt o gwmpas yr ynys wrth iddo wneud yn siŵr, trwy hud a lledrith a phŵer ei holl enaid, fod y wers wedi'i dysgu.

Yn ôl pob tebyg, Y Storm yw drama olaf Shakespeare ac mae'n waith cynnil, meistrolgar, llawn dyfais.

Gyda chyfieithiad newydd gan gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, a gyda thafluniadau arbennig, syrcas a cherddoriaeth fyw, daw Theatr Genedlaethol Cymru â byd hudolus yr ynys ryfeddol hon yn fyw.

Cyfarwyddwr: Elen Bowman

Coreograffi Syrcas : Citrus Arts

Cyfarwyddwr Corfforol : Liz Ranken

Cyfansoddwr: Simon Allen

Cynllunydd : Naomi Dawson

Cast yn cynnwys: Llion Williams, Meilir Rhys Williams (mwy i'w cyhoeddi yn fuan)