Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gwmni drama teithiol iaith Gymraeg.

Sefydlwyd y Cwmni yn 2003 gyda'r bwriad o greu theatr ar gynfas lydan, sydd ag apeal eang, sy'n cyfoethogi diwylliant theatrig Cymru, ac sy'n portradu safle'r genedl yn y byd a safle'r byd yn y genedl.

Er fod y Cwmni yn gwmni teithiol sydd yn gwasanaethu Cymru ben baladr, mae cartref gweinyddol y Cwmni yng nghanolfan Y Llwyfan, yn nhref Caerfyrddin.  Yma mae holl waith gweinyddol y Cwmni yn cael ei wneud ac yma hefyd mae'r ymarferion yn digwydd cyn i gynhyrchiad fynd ar daith.

Ar hyn o bryd, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynhyrchu tri cynhyrchiad teithiol, sydd yn cael eu perfformio, gan amlaf, ym mhrif theatrau Cymru.

 

Yn ogystal a chynyrchiadau, mae gwaith ymestyn yn cael ei wneud er mwyn meithrin cysylltiadau gyda chymunedau ar hyd a lled Cymru.  Mae hyn yn cynnwys gweithdai, sgyrsiau, nosweithiau agored a seminarau gydag ysgolion uwchradd, colegau, prifysgolion, grwpiau drama a sefydliadau perthnasol.

Ers 2003, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi llwyfannu dros 22 o gynyrchiadau sydd yn cynnwys 'Yn Debyg Iawn i Ti a Fi', ''Siwan', 'Cysgod y Cryman', 'Esther', 'Hen Rebel', 'Porth y Byddar', 'Iesu!', 'Y Pair', 'Y Gofalwr' a 'Gwlad yr Addewid'.

Cofrestrwyd Theatr Genedlaethol Cymru Cyf. yng Nghymru - Rhif Cofresrtu 4784488. Mae'r cwmni hefyd yn Elusen Cofrestredig Rhif 110603

Cynhyrchiad Cyntaf y Cwmni - Yn Debyg Iawn I Ti a Fi

Debyg Iawn

Diweddgan (2006-2007)

Diweddgan