Ein gweledigaeth

Creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon.

Ein cenhadaeth

Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant.

Newyddion + blogiau diweddaraf

Gweld y cyfan
12/03/2024 Newyddion
Theatr Gen x Cymuned Dawnsfa Cymru

Ry'n ni'n falch o barhau i gydweithio gyda Chymuned Dawnsfa Cymru, gydag wythnos ymchwil a datblygu a pherfformiad sgratsh Kiki Cymraeg yn Theatr y Sherman.

06/03/2024 Newyddion
Ha/Ha: Galwad am Artistiaid

Ry'n ni a Theatr Clwyd yn chwilio am artistiaid Cymraeg doniolaf Cymru i fod yn rhan o brosiect newydd sbon

08/02/2024 Newyddion
Parti Priodas: Ar Daith Ebrill a Mai 2024

Ar ôl llwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, bydd Parti Priodas gan Gruffudd Owen yn teithio Cymru y gwanwyn hwn.

Lowri Cooke

Ail-ddiffiniwyd nid yn unig ein disgwyliadau ni o beth yw theatr yn yr iaith Gymraeg, ond cawsom hefyd archwilio gysyniadau amrywiol o genedlaetholdeb.